Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 – Tŷ Hywel Senedd
Hybrid
Dyddiad: Dydd Llun, 9 Ionawr 2023
Amser:
14.00 -
14.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13183
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Joel James AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhys ab Owen AS.
2 Deisebau newydd
2.1 P-06-1309 Dylai Llywodraeth Cymru gynnal refferendwm cyn ehangu maint y Senedd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a dywedodd Joel James ei fod o blaid cynnal refferendwm. Nododd Aelodau eraill fod nifer o bwyllgorau’r Senedd wedi ystyried y mater yn ofalus iawn, ac roeddent i gyd wedi argymell bod angen cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd er mwyn medru craffu’n effeithiol ar Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno Bil Diwygio’r Senedd yn y flwyddyn newydd a bydd hwn eto’n gyfle i’r Senedd drafod y materion hyn a chraffu arnynt. O ystyried hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd.
2.2 P-06-1310 Gwarchod Mynydd Eglwysilan a Chefn Eglwysilan
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y byddai gwaith ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid yn mynd rhagddo pe bai cais yn cael, neu’n debygol o gael, ei gyflwyno ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol. O ystyried hyn, cytunodd yr Aelodau nad oedd fawr ddim arall y gallent ei wneud fel Pwyllgor ac y dylid cau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
2.3 P-06-1311 Dylid cymhwyso buddiannau Cymru ac amddiffyn cyfraith ryngwladol yn erbyn marwolaeth pysgod oherwydd EDF-Hinkley yn Aber Afon Hafren
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i’w chau o ystyried bod y Gweinidog wedi rhannu canfyddiadau ei grŵp gyda’r Gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth y DU, a bod ymchwiliad cyhoeddus wedi cadarnhau bod angen cyfarpar atal pysgod acwstig.
2.4 P-06-1312 Helpu i wella ansawdd dŵr yn Afon Wysg drwy uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ofyn am ei farn am hyn a gohebiaeth diweddaraf y deisebydd.
2.5 P-06-1313 Dylid caniatáu eithriadau i'r rheol deiliadaeth 182 diwrnod i leihau niwed i fusnesau hunanddarpar dilys yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, a chytunodd i aros am ganlyniadau’r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ddiweddar ynghylch eithriadau.
Bydd y Pwyllgor yn trafod y ddeiseb eto ymhen tri mis.
2.6 P-06-1314 Insiwleiddio holl gartrefi Cymru rhag y gwres a'r oerfel... cyflwyno grantiau sy'n agored i bawb!
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bydd sesiwn bord gron yn cael ei chynnal i drafod y mater hwn ar ddiwedd y cyfarfod cyhoeddus. Cytunodd yr Aelodau i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor pan fyddai’n cyfarfod rywdro eto i drafod y camau nesaf i’w cymryd mewn perthynas â’r ddeiseb.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-06-1302 Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Senedd. Diolchodd i’r deisebwyr am godi’r mater pwysig hwn ac am eu sylwadau diweddaraf.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl a chaeodd y ddeiseb.
3.2 P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a gofynnodd i swyddogion baratoi papur cwmpasu ynghylch sut y gallai’r Pwyllgor gefnogi’r digwyddiad roedd y deisebwr am ei gynnal yn y Senedd i dynnu sylw at yr heriau cysylltiedig â’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig
5 Blaenraglen Waith
Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.
6 Trafodaeth bord gron yn codi o P-06-1314 Insiwleiddio holl gartrefi Cymru rhag y gwres a'r oerfel... cyflwyno grantiau sy'n agored i bawb!
Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth bord gron ar y mater gyda nifer o randdeiliaid allanol.